Senedd Cymru
 Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN
 SeneddCydraddoldeb@senedd.cymru
 senedd.cymru/SeneddCydraddoldeb 
 0300 200 6565
 —
 Senedd Cymru
 Cardiff Bay, Cardiff, CF99 1SN
 SeneddEquality@senedd.wales
 senedd.wales/SeneddEquality 
 0300 200 6565
 Y Pwyllgor Cydraddoldeb 
 a Chyfiawnder Cymdeithasol
 —
 Equality and Social Justice 
 Committee

 

 

18 Gorffennaf 2023

Annwyl Gyfaill,

Ymgynghoriad: Cymru Wrth-hiliol

Mae Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd yn cynnal ymchwiliad sy'n edrych ar y modd y caiff y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ei weithredu a’i gyflwyno. Nod y Cynllun yw adeiladu Cymru wrth-hiliol, gan fynd i'r afael â hiliaeth sefydliadol a systemig.  Mewn cyfarfod bord gron a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2023, tynnodd randdeiliaid sylw at faterion yn ymwneud â gweithredu a chyflawni’r cynllun yn gyffredinol, a mynegi pryderon yn y meysydd polisi a ganlyn:

Mae'r Pwyllgor wedi cytuno i archwilio’r materion hyn ymhellach drwy gynnal ymchwiliad i effeithiolrwydd y modd y caiff y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ei weithredu a’i gyflawni.

Gwahoddiad i gyfrannu i’r ymchwiliad

Hoffai'r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’w gynorthwyo yn ei drafodaethau ar yr ymchwiliad. Wrth ymateb i’r ymgynghoriad, byddai’n ddefnyddiol cael eich sylwadau yn ymateb i’r cylch gorchwyl isod:

 

 

 

 

 

 

 

 

O ystyried pwysigrwydd croestoriadedd, bydd yr ymchwiliad hefyd yn ystyried sut y cafodd hunaniaethau croestoriadol pobl eu hystyried wrth ddatblygu a gweithredu'r Cynllun.

Os hoffech chi gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig o’ch sylwadau at: SeneddCydraddoldeb@Senedd.Cymru

Dylai ymatebion gyrraedd erbyn 6 Hydref 2023.

Canllawiau

Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y cylch gorchwyl.

Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.

Gweler y canllawiau i’r rhai sy’n darparu tystiolaeth ar gyfer pwyllgorau.

Polisi Dwyieithrwydd

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu'r llall o'n hieithoedd swyddogol, Cymraeg a Saesneg, neu'r ddwy. Os na chyflwynir gwybodaeth yn ddwyieithog, ni fydd yn cael ei chyfieithu, a chaiff ei chyhoeddi yn yr iaith y cafodd ei chyflwyno ynddi yn unig. Rydym yn disgwyl i sefydliadau weithredu eu safonau a’u cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â’u rhwymedigaethau statudol.

Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth

Fel rheol byddwn yn cyhoeddi gohebiaeth neu dystiolaeth ysgrifenedig ar ein gwefan. Os ydych wedi ymateb yn bersonol, bydd eich enw'n cael ei gyhoeddi ynghyd â'ch cyfraniad, oni bai eich bod wedi gofyn i'ch cyfraniad fod yn ddienw. Os ydych wedi ymateb yn eich rôl broffesiynol, bydd y fersiwn o’ch ymateb a gyhoeddir yn cynnwys eich enw, teitl eich swydd/rôl os yw'n berthnasol, ac enw eich sefydliad.

Manylion cyswllt

Os hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt a ganlyn:

Clerc y Pwyllgor

Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Senedd Cymru

Bae Caerdydd, CF99 1SN

E-bost: SeneddCydraddoldeb@Senedd.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565

Yn gywir,

Text, letter  Description automatically generated

Jenny Rathbone AS

Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

 

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.